Amgylchedd

Mae lleiniau cysgodi newydd sy’n cynnwys plannu planhigion rhywogaethau llydanddail yn ogystal â chonwydd, coed eraill a gwrychoedd ymhlith y gwelliannau sydd wedi’u gwneud â chefnogaeth y prosiect.

Mae’r ardal ucheldirol yma wedi’i dynodi’n SoDdGA ac rydyn ni wedi gweithio gyda swyddogion o sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud gwaith mewn modd sensitif, gan ymgorffori agweddau ar reoli rhedyn, cyflwyno dolydd blodau gwyllt a gwella mynediad i sicrhau bod gwartheg bridiau brodorol yn gallu pori ar rai o’r ardaloedd ucheldirol yn ogystal â defaid, er budd yr amrywiaeth o gynefinoedd a bioamrywiaeth.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.