Eglwys yr Hafod

Croeso i’n Heglwys Brydferth

Mae’r prosiect wedi helpu i uwchraddio ein cyfleusterau, gan gynnwys hyb teithio cynaliadwy yn neuadd bentref Ysgoldy Goch gerllaw a gwaith adnewyddu’r Tŷ Elor a ddefnyddiwyd fel gorffwysfan ar gyfer eirch trigolion ein mynwent cyn eu hangladd ac sydd nawr yn storfa ddefnyddiol iawn.

Ym 1803, comisiynodd perchennog Ystâd yr Hafod, Thomas Johnes, y pensaer James Wyatt i ddylunio eglwys newydd. Roedd Wyatt yn enwog fel adferwr Eglwys Gadeiriol Caersallog a rhai plastai Gothig trawiadol.

Mae’r eglwys wedi’i chysegru i Sant Mihangel a’r Holl Angylion ac mae’n cynnig cyfoeth o hanes. Cynhelir gwasanaethau addoli dwyieithog ar yr ail Ddydd Sul bob mis am 10.30am.

Mae Eglwys Newydd yr Hafod mewn ardal dawel a phictiwrésg, ar ffin Ystâd yr Hafod, ac mae’n agored i’r cyhoedd rhwng 10.30am a 4.30pm o’r Pasg i ddiwedd mis Medi. Cynhelir cyngherddau a phriodasau yma hefyd.

Mae claddgell Thomas Johnes a’i deulu o Ystâd yr Hafod yma , yn ogystal â’r bedyddfaen sydd wedi’i addurno ag arfbais y teulu Johnes. Goroesodd y bedyddfaen y tân distrywiol yn yr eglwys fis Ebrill, 1932, ac mae wedi’i gerflunio ag arfbais y teulu Johnes a ffigyrau sy’n cynrychioli’r Prif Rinweddau.

Adeiladwyd yr eglwys gyntaf yn yr Hafod ym 1620 gan Morgan Herbert, un o Ysweiniaid cynnar Ystâd yr Hafod. Etifeddodd Thomas Johnes Ystâd yr Hafod ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Nid yw’r eglwys wedi newid ei golwg ar y tu allan ond gwnaeth y tân yn yr eglwys ddifrod mawr i’r to a’r dodrefn Gothig mewnol, ffitiadau a phaentiadau a chollwyd rhai ohonyn nhw. Goroesodd y bedyddfaen ymhlith preniau golosgedig y to a oedd wedi cwympo ond, yn drasig, difrodwyd y gofeb farmor brydferth, a oedd wedi’i cherflunio gan Syr Francis Chantrey er cof am Mariamne, unig blentyn Thomas Johnes, fel nad oedd modd ei hatgyweirio.

Goruchwyliwyd y gwaith adfer gan W.D. Caroe a ddyluniodd y to derw calchedig deniadol, dodrefn a ffitiadau. Cymerwch amser i edrych o gwmpas ein Heglwys brydferth y mae ei hanes cymdeithasol wedi bod yn destun ymchwil gan Edgar Morgan ac aelodau’r eglwys. Gall ymwelwyr ddarganfod eu hanes teuluol trwy giosg cyfrifiadur sgrin gyffwrdd sy’n caniatáu cyrchu manylion cerrig beddi’r fynwent.

Gallwch chi ddarllen mwy am ein Heglwys yma.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.