Cydweithio

Mae gan yr ardal adrannau amrywiol o ecosystemau y gellir eu cysylltu’n well trwy well seilwaith gwyrdd o ansawdd da e.e. coed a gwrychoedd, sy’n caniatáu i rywogaethau a phobl deithio o’r ucheldir i’r goedwig i’r dyffrynnoedd a dalgylchoedd afonydd.

Rydyn ni’n cynnal gweithgareddau ar raddfa briodol – o raddfa tirwedd i raddfa micro i sicrhau bod gennym ni amrywiaeth gyflenwol o gamau gweithredu sy’n adlewyrchu cymhlethdod ein hamgylchedd ac yn caniatáu rhyngweithio, monitro a gwerthuso positif.  Mae topograffeg, daeareg a threfniant yr ardal wedi dylanwadu ar y raddfa, i bob pwrpas.

Mae cyflwr yr ecosystemau yn dwyn sylw at yr angen am gydweithredu – oherwydd newid hinsawdd gyda thymereddau uwch a mwy o lawogydd dwys yn golygu bod galw am gydweithio a chydweithredu strategol, wedi’i gyfuno ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n rhoi gwerth am arian ac sy’n gallu datblygu i ddod yn gynllun rheoli tir ac adnoddau naturiol cynaliadwy ar gyfer yr ardal. Mae hyn yn caniatáu i ni fod yn astudiaeth achos ddefnyddiol i eraill ein dilyn.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.