Ysgoldy Goch

Mae ein neuadd bentref yn adeilad rhestredig Gradd II a adeiladwyd fel neuadd Ysgol Sul yr Eglwys ym 1891, gan Mrs. Sarah Waddingham a dalodd hefyd am atgyweirio Eglwys Newydd bedair blynedd yn gynharach.

Mae Cadw wedi rhestru’r neuadd fel adeilad helaeth ei fanylion o ddiwedd y 19eg ganrif, mewn arddull rhydd a ddaeth yn sgil yr Adfywiad Gothig, sy’n gysylltiedig ag Ystâd yr Hafod. Mae’r adeilad wedi’i adeiladu o gerrig rwbel gydag addurniadau o frics coch gyda tho teils coch â bargodion dwf a chlochdwr pren.

Mae Ysgoldy Goch yn neuadd gymunedol hanesyddol a werthfawrogir ac a gefnogir yn dda gan y gymuned y mae llawer o’i sefydliadau’n ei defnyddio. Mae’n fan cyfarfod pwysig ac mae wedi’i chefnogi gan Grŵp Cymdeithasol a Chodi Arian Ysgoldy Goch sy’n trefnu digwyddiadau rheolaidd fel barbeciwiau, boreau coffi, nosweithiau cawl a digwyddiadau gwerthu pen-bwrdd.

Mae Eglwys Newydd yr Hafod hefyd yn ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau, ciniawau ‘dod a rhannu’, man cyfarfod am swper i artistiaid a gwahoddedigion sy’n cymryd rhan mewn cyngherddau yn yr eglwys a chyfarfodydd y cyngor cymuned yn ogystal â digwyddiadau Undeb y Mamau. Mae Ystâd yr Hafod yn ei defnyddio ar gyfer arddangosfeydd, te i gerddwyr a chynllun artist preswyl o’r Ysgol Ddarlunio Frenhinol gan ei bod yn gwneud stiwdio ddelfrydol.

Mae Ysgoldy Goch wedi’i huwchraddio â chegin newydd ac mae croeso i sefydliadau cymunedol archebu’r neuadd i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau.  Mae nawr yn cynnig hyb teithio cynaliadwy newydd gyda rhesel feiciau ar gyfer parcio mwy diogel a mannau parcio ychwanegol ar gyfer  digwyddiadau yn yr Eglwys, diolch i gyllid oddi wrth brosiect Elenydd Naturiol.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.