Ystâd yr Hafod

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol nawr yn rheoli Ystâd yr Hafod dan brydles y cytunwyd arni â’r tirfeddiannwr, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r 200 hectar yn cynnwys llwybrau cerdded a gerddi hanesyddol sydd wedi’u hadfer.

Cydnabyddir bod Hafod Uchtryd, 12 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth, yn un o’r enghreifftiau gorau yn Ewrop o Dirwedd Bictiwrésg.

Fe adeiladodd ei berchennog enwog, Thomas Johnes (1748-1816), dŷ newydd yn y lleoliad anghysbell hwn a chynllunio’i diroedd mewn modd a oedd yn addas i arddangos ei agweddau prydferth naturiol yn unol â’r ‘egwyddorion Pictiwrésg’ a oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda chylchdeithiau cerdded a oedd yn caniatáu i’r ymwelydd fwynhau cyfres o olygfeydd a phrofiadau. Defnyddiodd Johnes y tir hefyd ar gyfer ffermio, coedwigo a garddio, ym mhob achos yn rhoi cynnig ar syniadau newydd a dulliau arbrofol. Daeth yr Hafod yn gyrchfan hanfodol ar gyfer y twrist cynnar yng Nghymru.

Ym 1990, dechreuodd y prosiect achub ac adfer tirwedd ddyluniedig yr Hafod trwy Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.

Ffurfiodd yr Ymddiriedolaeth bartneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth i ymgymryd â gwaith cadwraeth ymarferol, gan ganolbwyntio ar rwydwaith Johnes o lwybrau. Ym 1994, ffurfiwyd elusen newydd, sef Ymddiriedolaeth yr Hafod – the Hafod Trust, fu’n gweithredu i achub yr amgylchedd unigryw hwn dros fwy neu lai y 30 mlynedd nesaf nes trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae hon yn ardal gerdded hynod brydferth ac mae yna bum taith gerdded ag arwyddbyst, yn amrywio o ran hyd ac ymdrech, sy’n galluogi ymwelwyr i archwilio tirwedd yr Hafod ar droed. Mae yna arwyddion i bob un ohonyn nhw o faes parcio’r eglwys, lle gellir prynu map tywys o beiriant dosbarthu (sy’n cymryd 2 ddarn £1).

Gallwch chi ddarllen mwy am y teithiau cerdded yma.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.