Hygyrchedd

Mae’r ardal yn gartref i Ffordd Cambria, sef siwrnai gyflawn o’r gogledd i’r de ar hyd meingefn mynyddig Cymru, yn rhedeg am 185 milltir (300km) o arfordir i arfordir – Caerdydd i Gonwy.

Mae’n ymdroelli trwy ddau Barc Cenedlaethol – Eryri a Bannau Brycheiniog – ac mae’n denu llawer o ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn. Bydd gwelliannau i Ffordd Cambria, gan gynnwys lliniaru newid hinsawdd trwy well draenio, yn ogystal â llwybrau wedi’u huwchraddio ar Ystâd yr Hafod, yn ei gwneud yn fwy hygyrch ac yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am yr ardal unigryw hon o Brydain. Bydd uwchraddio llwybrau cyswllt a’u gwneud yn fwy hygyrch trwy osod darnau bach o lwybrau pren ar ardaloedd agored o ucheldir yn ei gwneud yn haws croesi’r dirwedd arw.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.