Llesiant

Bydd y prosiect yn gwneud y safle’n fwy hygyrch i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae hybu defnyddio ac uwchraddio llwybrau ar Ystâd yr Hafod ac ar dir amaethyddol yn annog y cyhoedd i ymarfer corff ac, ar yr un pryd, gwerthfawrogi natur, ac mae hefyd yn cysylltu â Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.

Mae gwirfoddoli, fel y gwirfoddoli y mae’r prosiect yn ei gefnogi ar Ystâd yr Hafod, yn dod â chynhwysiant a llesiant iechyd meddwl o fod yn yr awyr agored mewn mannau gwyrdd a glas. Mae’r prosiect yn gwneud Ystâd yr Hafod yn fwy hygyrch i gerddwyr trwy uwchraddio tair adran o lwybrau a ddefnyddir yn helaeth.  Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cerdded Rhodfa’r Foneddiges ac adrannau o Gae Gwartheg ym misoedd y gaeaf ac mae angen gwella adran taith gerdded Ceunant Ystwyth ar ôl gwaith diweddar i gwympo coed. Caiff y llwybrau eu huwchraddio trwy osod arwyneb cerrig a gwella’r draenio lle bo angen.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.