Y Capel

Gellir olrhain hanes y capel a phentref Cwmystwyth yn ôl i gyfnod sefydlu rhai o’r mwyngloddiau metel mwyaf yng Ngheredigion sydd ar ffordd gul sy’n dilyn afon Ystwyth dros y mynyddoedd i Gwm Elan.

Y dyddiau hyn, ffermio a thwristiaeth yw’r prif gynheiliaid ac mae’r ardal yn gartref i nifer o lwybrau cerdded, gan gynnwys Llwybr Glyndŵr.

Eglwys Bresbyteraidd Cymru sydd berchen ar gapel Siloam, a sefydlwyd ym 1805. Cafodd ei ailadeiladu ym 1835 ac eto ym 1870. Mae’r tu mewn i’r capel yn enghraifft o grefftwaith hynod, nid yn unig am waith coed y seddau a’r balconi ond hefyd y lampau olew pres gwreiddiol a’r cnapau addurnol ar y nenfwd, sy’n cuddio system awyru.

Cymraeg ydy iaith y capel hwn ac mae wedi gwasanaethu cynulleidfa Gymraeg yn bennaf trwy gydol ei hanes. Mae’r capel bob amser wedi bod yn rhywle y mae’r gymuned yn cyfarfod ac yn rhywle y mae pobl ifanc yn dysgu i ddarllen, canu a siarad yn gyhoeddus yn y Gymraeg. Mae ganddo archif hanes lleol sydd i’w gael yn y festri. Mae’r prosiect yn helpu i ddarparu unedau arddangos ar gyfer amryw o eitemau ffotograffig pwysig.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.