Treftadaeth

Mae enw’r prosiect, sef Elenydd, wedi’i seilio ar hen enw ar yr ardal. Mae’n dyddio’n ôl i’r Mabinogi a chafodd ei gofnodi’n ddiweddarach gan ymwelwyr fel Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) ym 1188.

Y pennau bryniau hyn yw ucheldiroedd hen dir Arwystli. Nid oes gan Elenydd unrhyw ffin ddiffiniedig ac mae’n ardal eang wyllt o rostir, bryniau a dyffrynnoedd serth gyda gweddillion archaeolegol adeiladau mwyngloddio a thyddynnod anghyfannedd yma ac acw. Dyma yw canol daearyddol – gwir galon – Cymru. Ceir nifer o grugiau a charneddau yma ac acw yn y dirwedd, sef gweddillion safleoedd claddu’r Oes Efydd o rwy 2000-600 CC. Nid yw pob un yn gladdfa gan ei bod yn bosibl bod rhai wedi bod yn safleoedd defodau crefyddol gyda chenedlaethau diweddarach yn ysbeilio’r cerrig hanesyddol hyn i adeiladu llochesau neu waliau ar gyfer corlannau. Darganfuwyd disg aur – disg haul o’r Oes Efydd – yn 2002 yn ystod gwaith cloddio ger yr hen weithfeydd copr a dyma oedd y cyntaf o’i fath i’w ddarganfod yng Nghymru.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.