Ein Prosiect

Ein partneriaeth gydweithredol, yn y gymuned rhwng tirfeddianwyr, trigolion, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ystâd yr Hafod ydy Elenydd Naturiol, i gefnogi cadernid a chynaliadwyedd bywyd yn ardal Elenydd o Ucheldir Cambria a Dyffryn Ystwyth.

Yma yn anialwch olaf Cymru, sef calon Mynyddoedd Cambria, mae’r prosiect yn dathlu treftadaeth gymunedol gorffennol ffermio a mwyngloddio’r dyffryn.  Mae’n dod â’r gymuned ynghyd, yn iawn am y tro cyntaf, er mwyn hybu ac ymgysylltu ag arferion ffermio cynaliadwy, a gwneud y dirwedd fwyngloddio sy’n aml yn ddiffaith yn fwy deniadol i drigolion ac ymwelwyr, trwy wneud gwelliannau amaeth-amgylcheddol, sicrhau treftadaeth a chyfleoedd dysgu mwy hygyrch, defnyddio adnoddau’n fwy cynaliadwy a sicrhau bod cyfleoedd gwirfoddoli’n fwy hygyrch mewn ardal sy’n un o enghreifftiau mwyaf gwych Ewrop o “Dirwedd Bictiwrésg”.

 

Rydyn ni’n gwerthfawrogi gwerth cynhenid ein hasedau naturiol ac rydyn ni eisiau eu cadw a’u diogelu ynghyd â’n ffordd o fyw yn ein cymuned Gymraeg, er budd cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae’r prosiect yn cefnogi dull o weithredu lle mae grwpiau cymunedol amrywiol yn mynd i’r afael ar y cyd â’r heriau yn yr ardal leol, gan gynnwys effeithiau parhaus newid hinsawdd a dirywiad y dirwedd. Mae’n darparu cyfleoedd newydd ar gyfer ymweliadau cynaliadwy â theithiau cerdded sydd wedi’u gwella yn y goedwig ac ar y bryniau. Mae’r cynllun wedi darparu cyfleusterau parcio oddi-ar-y-ffordd ar gyfer y rheini sy’n defnyddio neuadd leol y pentref ac wedi cyflwyno dulliau cynaliadwy gwell o fynd ati i reoli ein hardal ucheldirol arbennig.

Cysylltu â Ni

Lluniau/Photography: Sorcha Lewis, Heather Mitchell, Simon Boussetta, Peter Unwin.